Mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain Cymru (BASW Cymru) yn chwilio am ymarferydd gwaith cymdeithasol profiadol a fydd yn gweithredu i fod yn sbardun a chatalydd dros newid ar gyfer y swydd Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol (Ras) newydd hon.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth, byddwch yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol a chyrff proffesiynol cynrychioliadol, ADSS, Gofal Cymdeithasol Cymru, CIW, HIW, Awdurdodau Lleol a CLlLC i: godi ymwybyddiaeth, gwella gwybodaeth, nodi cyfleoedd hyfforddi a dangos llwyddiant drwy asesiadau effaith a gwerthusiadau wrth ddarparu gwasanaethau.
Bydd deilydd y swydd yn cynghori ar gyflwyno ymarferiad gwaith cymdeithasol a datblygiad proffesiynol y rhai sy'n gweithio yn y sector i sicrhau datblygiad ymarfer wrth weithio gydag unigolion sydd mewn perygl o anfantais yn seiliedig ar darddiad ethnig. Felly, cefnogi cymunedau i wella'r gwasanaeth a gânt, a nodi gwelliannau a diwygiadau ar gyfer y sector yn seiliedig ar bolisïau a gweithdrefnau effeithiol, tystiolaeth gref a data cadarn.
Bydd deilydd y swydd yn cael cefnogaeth gan grŵp cyfeirio o weithwyr proffesiynol a phobl â phrofiad o fyw. Cefnogir y gwaith gan ganllawiau a hyfforddiant sy'n meithrin ymddiriedaeth a hyder gweithwyr proffesiynol i gefnogi anghenion gofal yn gadarnhaol ar gyfer aelodau o grwpiau a chymunedau lleiafrifol ethnig. Bydd deilydd y swydd yn cysylltu â Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau ymgysylltiad parhaus â phobl â phrofiad o fyw, y gweithlu a chyflogwyr i sicrhau gwelliant parhaus yn y sector.
Rydym yn chwilio am unigolyn a all yrru newid yn ei flaen yn gyflym, gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr a rhanddeiliaid allweddol ac sydd â phrofiad o weithio gydag unigolion a chymunedau ymylol i gyflawni a gwreiddio go iawn gyda chanlyniadau adnabyddadwy. Bydd y rôl hon yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio menter, yn gweithio gyda lefel uchel o ymreolaeth ac yn gallu gweithredu fel chwaraewr a chydweithiwr allweddol mewn tîm bach a deinamig tra'n dylanwadu ar yr un pryd ar randdeiliaid strategol yn y darpariaeth o wasanaethau.
Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i sara.hickin@basw.co.uk, dim hwyrach na 10am dydd Iau 30 Ionawr 2025. Nid ydym yn derbyn CV’s.
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad rhithiol ar-lein ac ar hyn o bryd maent wedi'u hamserlennu ar gyfer, Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025
Yn BASW, gwyddom fod recriwtio’r dalent orau ar gyfer y Gymdeithas yn golygu cael mynediad at y gronfa ehangaf bosibl o bobl.
Rydym yn gwneud ffurflenni cais yn ddienw wrth lunio rhestr fer er mwyn sicrhau bod ceisiadau’n cael eu hasesu heb ystyried enw, nodweddion personol na chefndir diwylliannol yr ymgeisydd. Mae Panel o bobl yn sgorio pob cais yn erbyn gofynion y rôl fel y nodir yn y fanyleb person.