BASW Cymru Adroddiad - Mai 2014/BASW Wales report - May 2014
Bu BASW Cymru yn bresennol yng nghynadleddau gwleidyddol y pedwar prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru a, gyda’n cydweithwyr mewn partneriaeth o Glymblaid Ail-alluogi Cymru, buom yn lobio’r gwleidyddion. Rhoddodd y cynadleddau’r cyfle i ni hybu a dylanwadu ar ail-alluogi a hefyd i hybu llais proffesiwn gwaith cymdeithasol a’i anghenion.
Cynhadledd Flynyddol BASW Cymru: Fe gynhelir ein Cynhadledd Flynyddol dydd Mercher 18 Mehefin 2014 rhwng 9.30am a 3.30pm yng Nghanolfan Adnoddau ‘r Cyfryngau, Ffordd Oxford, Llandrindod, Powys. Thema’r Gynhadledd yw ‘Datblygiad Proffesiynol Barhaus ag effaith Addysg a Dysg Proffesiynol Parhaus (CPEL) - beth yw hyn yn ei olygu i chi?’ Bydd y diwrnod yn gyfle hanfodol i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru dysgu am, a chael eu hysbrydoli gan y datblygiadau fydd yn cael effaith uniongyrchol ar eu hymarferiad. Bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd, Cymraeg a Saesneg, ar gael er mwyn sicrhau darpariaeth i siaradwyr y ddwy iaith. Mae mwy o fanylion i’w gweld ar wefan BASW o dan yr adran digwyddiadau yng Nghymru. Cewch eich atgoffa hefyd trwy ein e-bwletinau.
Eglurhad ar Gofrestru: Cawsom wybod bod yna rhywfaint o ddryswch ynglŷn â chofrestru gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol, ac efallai gall hwn ei drosglwyddo i HCPC sy’n cynnal y swyddogaeth hon i weithwyr cymdeithasol yn Lloegr. Gallaf gadarnhau bydd y gwaith yma yn parhau i gael ei wneud yng Nghymru gan Gyngor Gofal Cymru neu unrhyw fudiadau olynol a ddaw o ganlyniad i’r Papur Gwyn ar Reoleiddio ag Archwilio. Mae’r newidiadau a fwriedir yn cynnwys y posibilrwydd o gofrestru yn unol â gwahanol lefelau o Addysg a Dysg Broffesiynol Barhaus (CPEL) i waith cymdeithasol. Dyna pam ei bod mor angenrheidiol i chi fynychu ein cynhadledd.
Datblygiadau gan BASW Cymru: Mae BASW UK wedi gweld yr anghenion a’r gofynion cynyddol am ein gwaith yng Nghymru trwy gytuno i gyllido Gweinyddydd Cenedlaethol rhan amser. Fe ddisgwylir i’r swydd hon cael ei leoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd ac fe ddisgwylir cynnal y cyfweliadau yn gynnar ym Mehefin. Bydd hyn yn galluogi ni i wario mwy o amser ar ddigwyddiadau wyneb yn wyneb
Mae’r ffurflenni enwebu ar gyfer Gwobrau Blynyddol BASW Cymru am Waith Cymdeithasol yn cael eu cyfieithu ar hyn o bryd a byddant ar gael yn fuan ar dudalen Cymru o wefan BASW i’w lawr lwytho, ei gwblhau a’i gyflwyno. Os yr ydym am roi gwerth ar ein proffesiwn ac am i aelodau ehangach o’r cyhoedd cydnabod a pharchu'r gwaith anodd a boddhaol rydym yn ei wneud, mae’n hanfodol eich bod yn enwebu eich cydweithwyr . Gadewch i ni fod ar y droed blaen ar gyfer newid ac i hybu’r hyn sy’n gadarnhaol.
Bydd ein swyddfa Gogledd Cymru ym Mhlas Eirias Bae Colwyn yn cael ei agor yn swyddogol ar 29 Mai rhwng 12 hanner dydd a 2pm. Byddem yn paratoi lluniaeth ysgafn ar eich cyfer, felly os hoffech daro i mewn i’n gweld, rhowch wybod i ni ar wales@basw.co.uk.‘
Mae datblygiadau eraill yng Nghymru yn cynnwys gwahoddiad i BASW Cymru i fod yn rhan o Grŵp Cyfeirio Adolygiad Gweithrediad Jasmine (dyma’r adolygiad o’r achos o gartrefi preswyl i’r henoed yng Ngwent) a mwy o gyfarfodydd ar gyfer y Papur Gwyn ar Reoleiddio ag Archwilio (i ddod yn Fesur yn ddiweddarach eleni).
Digwyddiadau Ehangach: Fe gynhelir Cyfarfod Cyffredinol a Chynhadledd Flynyddol BASW UK yn Llundain ar 10 Mehefin. Bydd hwn yn gyfle i glywed am ddatblygiadau allweddol yn y drefn lywodraethol i’r gymdeithas yn ogystal â siaradwyr allweddol o bwys. Fe gynhelir Cynhadledd Ffederasiwn Rhyngwladol Gweithwyr Cymdeithasol (IFSW) Ewrop 2015 yng Nghaeredin ar 7-9 Medi blwyddyn nesaf. BASW UK bydd yn cynnal y digwyddiad hwn mewn cydweithrediad a phartneriaid allweddol - llawer ohonynt o’r Alban. Fodd bynnag, mae’n ddigwyddiad ledled Ewrop nac mae’n debyg o ddenu hyd at 1,500 o weithwyr cymdeithasol. Bydd hwn yn gyfle unigryw i chi fod yn rhan o ddigwyddiad cyfandirol, felly gwnewch bob ymdrech i fod yna os gwelwch yn dda.
BASW Cymru attended the party conferences of the four main political parties in Wales and lobbied politicians with our partner colleagues from the Welsh Reablement Alliance. The conferences gave us an opportunity to promote and influence reablement and also promote the voice of the social work profession and its needs.
BASW Cymru Annual Conference: Our Annual Conference ‘Continuing Professional Development and the impact of CPEL – what does this mean for you?’ is to take place on Wednesday 18 June 2014 between 9.30am and 3.30pm at the Media Resource Centre, Oxford Road, Llandrindod Wells, Powys. The day is a crucial opportunity for social workers in Wales to learn about and be inspired by developments that will have a direct impact on their practice. There will be simultaneous translation between Welsh and English to ensure speakers of both languages are catered for. More details can be found on BASW’s website under the events section of the Wales. There will also be reminders through e-bulletins.
Registration clarification: We have been made aware that there is some confusion regarding the future of registration of social workers in Wales and that this might be transferred to HCPC who undertake the role for English social workers. I can confirm that this function will continue to be undertaken in Wales by the Care Council for Wales or any Welsh successor organisations that may result from the White Paper on Regulation and Inspection. Changes that are being proposed include the possible registration against the different levels of CPEL (Continuing Professional Education and Learning for social work), which is why attendance at our conference is so necessary.
BASW Cymru developments: BASW UK has recognised the increasing needs and demands of our work in Wales by agreeing to fund a part-time National Administrator. It is expected the post will be based at the Cardiff office and the interviews are scheduled for early June. This will enable us to spend more time on face-to-face activities.
The nomination forms for this year’s BASW Cymru Annual Social Work Awards are currently being translated and will shortly be available on the Wales page of the BASW website to download, complete and submit. If we value our profession and want the wider members of the public to recognise and respect the difficult and rewarding roles we undertake, it is essential that you nominate colleagues. Let’s be on the front foot for a change and promote the positives.
Our North Wales office at Plas Eirias, Colwyn Bay, is having an official opening on 29 May between 12noon and 2pm. We will be providing some light refreshments, so if you are wanting to pop in and see us, please let us know on wales@basw.co.uk .
Other developments within Wales include an invitation to BASW Cymru to be part of the Operation Jasmine Review Reference Group (this is the review of the Gwent residential care homes for the elderly debacle) and further meetings for the Regulation and Inspection White Paper (to become a Bill later this year).
Wider Events: The BASW UK AGM and Conference takes place in London on 10 June. This will be an opportunity to hear about the key governance developments for the association as well as some high profile keynote speakers. The International Federation of Social Workers (IFSW) Europe Conference for 2015 is being held in Edinburgh on 7-9 September next year. This event will be hosted by BASW UK in conjunction with key partners – many of whom are from Scotland. However, it is a Europe-wide event and is likely to attract up to 1,500 social workers. It will be a unique opportunity for you to share in a continental event, so please make every effort to be there.