BASW Cymru Adroddiad – Tachwedd 2013/BASW Wales Report - November 2013
Un o fanteision allweddol bod yn cynrychioli gwaith cymdeithasol yng Nghymru yw gallu gweithio mewn partneriaeth, sy’n digwydd yn helaeth. Mae hynny’n gallu dod â manteision anferth, yn enwedig mewn gwlad fechan fel ein un ni. Mae gweithio gyda’n gilydd yn golygu cael llais cryfach, a chyfle i rannu ein barn ar faterion, ac mae hefyd modd defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol.
Nawr mae BASW Cymru eisiau talu teyrnged i gydweithwyr o amrediad o wahanol gyrff y byddwn yn gweithio gyda hwy. Pobl yn enwedig fel Ruth Crowder (Coleg y Therapyddion Galwedigaethol), Pip Ford (Coleg y Ffisiotherapyddion) a Mary van den Heuvel (Leonard Cheshire) am yr ynni, ymrwymiad a chefnogaeth oddi wrthynt ar nifer o wahanol faterion, yn cynnwys y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Cynghrair Ailalluogi Cymru, a’r papur gwyn newydd ar reoleiddio ac arolygu.
Y papur gwyn hwnnw …
Llwyddiant! Mae’r bwriad i greu Coleg Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol wedi cael ei adael allan o’r papur gwyn a gyhoeddwyd ar 30 Medi, cyn dechrau ar y broses ymgynghori o dri mis. Diolch oddi wrth BASW Cymru i’r ffigyrau allweddol wnaeth bwyso ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i hynny, syniad sy’n ein hatgoffa o amgylchiadau llai na hapus dros y ffin yn Lloegr. Rydym ni hefyd eisiau diolch i bob un ohonoch chi am fod yn aelodau – mae’n gwneud gwahaniaeth sylweddol bod gennym ni dros 1,000 o aelodau, sydd wedi bod o gymorth efo hyn.
Ar yr un diwrnod yn union ag y lansiwyd y papur gwyn, roedd cyfarfod rhwng Rhian Huws-Williams a Gerry Evans o Gyngor Gofal Cymru, a Bridget Robb o BASW a Robin Moulster o BASW Cymru. Roedd Robin yn ei ddisgrifio fel “cyfarfod adeiladol iawn sydd, rwyf yn credu, yn paratoi’r ffordd ar gyfer gweithio’n agosach ar faterion allweddol i waith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru”.
Mae cyfarfodydd pellach yn cael eu trefnu i drafod meysydd penodol o weithio ar y cyd. Mae llawer yn dal yn aros i gael ei wneud er mwyn cyflawni dyheadau BASW Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Gofal Cymru ac eraill.
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Mae cyfres o gyfarfodydd wedi digwydd, i geisio cael dylanwad cadarnhaol ar newidiadau fyddai’n gwella mwy eto ar y darn allweddol hwn o ddeddfwriaeth. Roedd trafodaeth yn ddiweddar, gyda swyddogion uwch ac ymgynghorwyr o Lywodraeth Cymru, yn gyfle nid yn unig i ddylanwadu ar eiriad y Bil ond hefyd yn agor y drws i gynnwys BASW Cymru yn y grŵp sy’n cael ei roi at ei gilydd i adolygu’n llwyr y Broses Asesu Unedig. Mae angen annog unrhyw gyfle i leihau’r lefel bresennol o fiwrocratiaeth sylweddol o ganlyniad i’r Broses hon a helpu gweithwyr cymdeithasol i dreulio mwy o amser gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Gwobrau Gwaith Cymdeithasol Blynyddol BASW Cymru 2013
Roedd angen gwneud llawer o newidiadau funud olaf i raglen y cyfarfod min nos ar gyfer Gwobrau Gwaith Cymdeithasol BASW Cymru, oedd yn cael ei gynnal am y bedwaredd flwyddyn, oherwydd y drafodaeth ar y Bil Teithio Llesol yng Nghymru. Doedd y Dirprwy Weinidog ac Aelodau Cynulliad ddim yn gallu cyrraedd yno tan hanner ffordd trwy’r digwyddiad, ond er hynny roedd yn noson anferthol o lwyddiannus.
Rydym ni’n hynod falch ar gyfer y rhai enillodd wobrau a chael tystysgrifau i gydnabod beth maen nhw wedi’i gyflawni. Rydym hefyd eisiau diolch yn arbennig i’n noddwyr, RadcliffesLeBrasseur a Labordai Cransford, yn ogystal â’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, a’r Aelodau Cynulliad ddaeth yno – ac yn enwedig ein Noddwyr. Diolch hefyd i’r beirniaid, Dr Neil Thompson, Gabe Conlon a Penny Lloyd, oedd yn cael cefnogaeth ein Cadeirydd, Ian Ellison, a’n Gweithiwr Datblygu, Carol Davies. Gair o ddiolch arbennig hefyd i’r Is-bwyllgor Gwobrau, wnaeth helpu i droi’r weledigaeth yn ddigwyddiad o ddifri.
Fodd bynnag, byddai’n esgeulus iawn ohonof i beidio diolch i’r aelodau pwyllgor a’r staff wnaeth weithio gyda’i gilydd fel tîm gwych ar y noson. Diolch yn arbennig i Sara Hickin am ei hamser a’i chefnogaeth, oedd o gymorth i wella mwy fyth ar ddigwyddiad y flwyddyn ddiwethaf.
Rhaid i’r clod olaf fynd i Sara Hickin a Cath Taffurelli, Dirprwy Gadeirydd BASW Cymru, oedd yn cyd-drefnu a goruchwylio’r holl broses o’r dechrau i’r diwedd ac sydd wedi treulio llawer o oriau yn ei wneud yn llwyddiant.
Ymweliadau Prifysgol
Roedd yr ymweliadau prifysgol gan BASW Cymru yn 2013 yn arbennig o lwyddiannus, gyda bron 100 o fyfyrwyr yn ymuno â’u cymdeithas broffesiynol hwy. Ar adeg ysgrifennu hwn mae dau ymweliad i ddigwydd eto, ym Mangor a Phen-y-bont ar Ogwr, y ddau’n digwydd ddiwedd mis Hydref. Myfyrwyr gwaith cymdeithasol yw dyfodol ein proffesiwn, ac rydym ni’n arbennig o falch bod cymaint o ddiddordeb oddi wrth fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud gwaith cyswllt rhwng BASW Cymru a’u prifysgol, yn ogystal â dangos diddordeb mewn ymuno gyda’n pwyllgor cenedlaethol ni. Bydd hyn yn cryfhau mwy eto at ein proffesiwn.
Ac yn olaf …
Mae angen bwcio nawr os gwelwch yn dda ar gyfer yr hyfforddiant ar ‘Sut i gadw eich hunan a defnyddwyr gwasanaethau’n ddiogel ar lein’, ar 11 Tachwedd yn Llanelli. Dyma gyfle gwych i gefnogi ac arwain y bobl y byddwch yn gweithio gyda hwy, a chadw ar yr un pryd at safonau moesegol eglur o ymarfer ac ateb eich gofynion cyfreithiol. Does dim un cyflogwr yng Nghymru rydym ni’n gwybod amdano yn cynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb i ateb yr angen yma, ac mae hynny’n achosi pryder gan y gallai adael gweithwyr cymdeithasol mewn sefyllfa anodd – felly gwnewch yn sicr nad ydych chi’n un o’r rheiny.
One of the key benefits of representing social work in Wales is the partnership approach widely taken. This can have enormous benefits, particularly in a small country like ours. Working together means having a greater strength of voice where views are shared and also means that resources can be used more effectively.
Currently, BASW Cymru would like to pay tribute to colleagues from a range of organisations with which we work, particularly Ruth Crowder (College of Occupational Therapists), Pip Ford (College of Physiotherapists) and Mary van den Heuvel (Leonard Cheshire) for their drive, commitment and support on a number of issues, including the Social Services & Well Being (Wales) Bill, The Welsh Reablement Alliance, and the new white paper on regulation & inspection.
That white paper …
Success! The proposal to create a College of Social Care and Social Work has been dropped from the white paper published on 30 September ahead of a three-month consultation process. BASW Cymru would like to thank key figures who pressed the Welsh Government to ditch an idea that evokes less than happy circumstances over the border in England. We would also thank each and every one of you for your membership – strength in numbers does count and having over 1,000 members was not an insignificant factor.
The meeting between Rhian Huws-Williams and Gerry Evans from the Care Council for Wales, and BASW’s Bridget Robb and BASW Cymru’s Robin Moulster, took place on the same day as the launch of the white paper. Robin described it as “a very constructive meeting which I believe paves the way for closer working on key issues for social work and social workers in Wales”.
Further meetings to discuss specific areas of joint working are being arranged. There is much still to do to make the ambitions of BASW Cymru, the Welsh Government, the Care Council for Wales and others, a reality.
Social Services and Well Being (Wales) Bill
A series of meetings have taken place to try to positively influence amendments that would further improve this key piece of legislation. A recent discussion with senior Welsh Government officers and advisors not only provided the opportunity to influence the wording of the Bill but has also opened the door to BASW Cymru’s inclusion in the group being set up to totally revise the Unified Assessment Process (UAP). Any opportunity to reduce the current level of significant bureaucracy caused by UAP and help social workers spend more time with service users and carers, is to be encouraged.
BASW Cymru Annual Social Work Awards 2013
Despite the many last minute changes to the agenda for the evening ceremony of the fourth annual BASW Cymru Awards, caused by the debate on the Active Travel Bill in Wales which prevented the Deputy Minister and Assembly Members from arriving until half way through the event, it was an enormously successful evening.
We are delighted for all those who won awards and received certificates of achievement and would also like to say a special word of thanks to our sponsors, RadcliffesLe Brasseur and Cansford Laboratories, as well as to the Deputy Minister for Social Services, Gwenda Thomas AM, and to the Assembly Members who came along – particularly our Patrons. A word also for the judges, Dr Neil Thompson, Gabe Conlon and Penny Lloyd, who were supported by our Chair, Ian Ellison, and Development Worker, Carol Davies. A special word also for the Awards Sub Committee who helped turn the vision into reality.
However, it would be extremely remiss of me not to say a thank you to committee members and staff who pulled together as an excellent team on the night. We’d particularly like to thank Sara Hickin for her time and support, which aided further improvements on last year’s ceremony.
The final praise must go to and Cath Taffurelli, BASW Cymru Deputy Chair, who co-ordinated and oversaw the whole process from beginning to end and spent many hours making it a success.
University visits
BASW Cymru’s 2013 university visits were enormously successful with about almost 100 students joining their professional association. At the time of writing there are still two visits to be undertaken, in Bangor and Bridgend, both in late October. Social work students are the future of our profession and we are especially pleased that there has been so much interest from students wanting to take on linking roles between BASW Cymru and their university, as well as showing an interest in joining our national committee. This will add even further strength to our profession.
And finally …
Please book now for the ‘How to keep yourself and service users safe online’ training in Llanelli on 11 November. This is an excellent opportunity to support and guide the people you work while adhering to clear ethical standards of practice and meeting your legal requirements. We are not aware of any employer in Wales offering face-to-face training to meet this need, which is a concern as it could leave social workers in a vulnerable situation – so make sure you’re not one of them.