BASW UK – Maniffesto ar gyfer Gwaith Cymdeithasol
#ManiffestoGC19 #AddewidGwaithCymdeithasol19
1. Buddsoddi yn y mentrau rydym eu hangen yn y degawd nesaf yng ngwaith cymdeithasol ym meysydd recriwtio, addysg, datblygiad proffesiynol a dal gafael ar staff.
Yn ôl yr ymchwil a wnaed gan BASW ag Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol gyda Phrifysgol Sba Caerfaddon, yn 2018 roedd 60% o weithwyr cymdeithasol yn rhagweld y buasent yn gadael eu swyddi presennol o fewn y 15 mis nesaf. Mae bron i 40% o’r rhai a ymatebodd yn rhagweld y byddant yn gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.
Yn ôl yr Adran Addysg mae’r trosiant staff yn y gwasanaeth plant yn Lloegr yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ac ar hyn o bryd mae’n sefyll ar 16%, tra bo ffigyrau swyddogol eraill yn dangos bod 15% o weithlu gwaith cymdeithasol 2017/18 yng Nghymru wedi gadael y proffesiwn.
Mae gweithlu gofal iechyd a chymdeithasol ffyniannus angen polisi mewnfudo sy’n hyblyg ac sy’n cynnwys sicrwydd bod hawliau ag urddas gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol o wledydd tramor yn cael eu diogelu.
2. Hybu rhan gweithwyr cymdeithasol mewn gwasanaeth iechyd a gofal amlbroffesiwn ac integredig.
Gall integreiddio cywir a thimau amlddisgyblaeth cyflwyno’r canlyniadau gorau posibl i bawb. Mae gweithwyr cymdeithasol yn hanfodol wrth ddod a gwahanol ffynonellau at ei gilydd i gael yr effaith orau, trwy weithio’n agos gyda theuluoedd a gofalwyr a diogelu hawliau ac urddas.
Yn rhy aml fodd bynnag, mae cyfraniad gwaith cymdeithasol mewn sefyllfaoedd integredig yn brin o fuddsoddiad ac arweiniad
Mae BASW yn disgwyl i’r Llywodraeth nesaf helaethu rhan gweithwyr cymdeithasol ym mhob sefyllfa integredig lle gall ein harbenigedd trawsnewid bywydau ein dinasyddion mwyaf bregus, a mynd i’r afael a rhai o’n heriau mwyaf o ran ansawdd a gwerth.
3. Mynd i’r afael ag amodau gwaith gwael a beichiau gwaith afreal o uchel i weithwyr cymdeithasol
Yn ôl ymchwil a wnaed gan Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol a Phrifysgol Sba Caerfaddon, o’i gymharu â chyfartaledd y DU, mae amodau gwaith gweithwyr cymdeithasol yn waeth na 90%-95% o swyddi eraill yn y sector cyhoeddus yn ogystal â’r sector preifat,
Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio ar gyfartaledd o 64 diwrnod y flwyddyn yn fwy na’r hyn sydd yn eu cytundebau, cyfartaledd o 11 awr yr wythnos. Y prif reswm am straen yw’r lefelau uchel o achosion gwaith a gweinyddol. Mae ansawdd y gefnogaeth i wasanaethau plant ac oedolion yn dibynnu ar roi amodau gwaith cywir i weithwyr cymdeithasol.
Mae ymchwil diweddar gan Ofal Cymunedol wedi dangos bod bron i 73% o weithwyr cymdeithasol heb gynllun clir i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae BASW a’n partneriaid yn gwybod sut y gellir cildroi hyn trwy well ymarferiadau gwaith - ond bydd hyn yn golygu buddsoddiad hefyd.
4. Cefnogi a buddsoddi mewn ymarferiad gwaith cymdeithasol sy’n hybu hawliau, urddas, hunan benderfyniad a photensial pob plentyn, oedolyn a chymuned.
Mae ymgyrch ymchwil 80/20 BASW wedi dangos mai un o brif achosion straen ar weithwyr cymdeithasol yn y rheng flaen, yw’r diffyg adnoddau i ddefnyddwyr y gwasanaethau a’r prinder amser i gael gweithio gyda hwy wyneb yn wyneb.
Mae ymarferiad sy’n seiliedig ar berthynas yn sylfaenol i waith cymdeithasol ond yn rhy aml, mae gwaith gweinyddol, sy’n haws i’w fesur, yn gorfod cael blaenoriaeth er anfantais i blant a theuluoedd.
Mae gweithwyr cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol wrth helpu pobl gydag anghenion iechyd meddwl neu anableddau dysgu i fyw bywydau annibynnol y tu allan i ofal mewn sefydliadau preswyl.
Mae grymuso gwaith cymdeithasol yn y gymuned, sy’n canolbwyntio ar gryfderau ag asedau pobl, yn hanfodol i gefnogi teuluoedd i allu cael mynediad at y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn.
Cymdeithas Decach
5. Dod a chynildeb yn y gwasanaethau cyhoeddus i ben: buddsoddi mewn gofal cymdeithasol a diwygio Credyd Cynhwysol
Mae 14 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi yn y DU ac nid yw’r gallu i bob dinesydd cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn ddigonol: i ddod a chynildeb i ben, rhaid ymdrin â’r anghyfiawnder yma fel blaenoriaeth
Gweithwyr cymdeithasol yw’r rhai sydd at y rheng flaen pan ddaw i doriadau mewn cyllidebau Awdurdodau Lleol. Mae’r toriadau hyn wedi taro gwasanaethau hanfodol i’r henoed, plant, teuluoedd, unigolion a gofalwyr mor galed dros y degawd diwethaf, yn ogystal â diwygiadau creulon a gwrthgynhyrchiol i’r system Lles. .
Pob diwrnod, bydd gweithwyr cymdeithasol yn dod ar draws canlyniadau ariannol, iechyd ac ymddygiad negyddol gan ddefnyddwyr y gwasanaethau. Gwelwyd sancsiynau mewn budd-daliadau, megis pobl gydag anableddau yn cael eu cosbi’n annheg fel mae’r raddfa o 75% o apeliadau llwyddiannus yn erbyn asesiadau PIP1 ag ESA2 yn dangos yn glir. Mae eraill yn cael eu gorfodi allan o’r system yn gyfan gwbl.
Ymysg mesurau eraill, mae BASW yn gofyn i’r Llywodraeth nesaf dileu, yn ddi-oed, y cap dau blentyn ar gredydau treth plant a bod y cyfnod mae hawlwyr Credyd Cymhwysol yn gorfod aros, yn dod i ben.
6. Gwrthdroi preifateiddio gwastraffus a’r modelau gofal iechyd a chymdeithasol ar sail elw
Mae gofal iechyd a chymdeithasol yn cael ei breifateiddio a’i dorri’n ddarnau yn gynyddol. Mae yna bryderon difrifol am gyn lleied sy’n hysbys am effaith y modelau hyn ar y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’r gymuned ehangach.
Mae BASW hefyd yn poeni am yr adnoddau sy’n cael eu tynnu allan o’r sector cyhoeddus ac felly’n cam-ystumio rhwymedigaethau’r wladwriaeth yn ogystal â’r diffyg craffu a chyfrifoldeb democrataidd i gleifion, defnyddwyr y gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a threthdalwyr.
Cafodd sector gofal cymdeithasol i oedolion diffygiol, yn ogystal â charchardai preifat ac arbrofion ar y gwasanaeth prawf eu heffeithio’n galed wrth i gwmnïau sy’n cael eu gyrru gan elw ymuno a’r farchnad; rhaid sicrhau nad yw hyn yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill.
[1] Taliadau Annibyniaeth Personol
2 Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
7. Datrys yr argyfwng digartrefedd ledled y DU
Mae gwreiddiau digartrefedd eang a gwarthus yn gorwedd gyda’r diffyg cartrefi fforddiadwy a blynyddoedd o bolisïau diffygiol ar baratoi cartrefi. Yn aml iawn, fodd bynnag, mae digartrefedd yn broblem gymhleth ddiysgog hefyd i unigolion sy’n gysylltiedig â chyflyrau eraill megis iechyd meddwl, tlodi tra mewn gwaith, camddefnydd o gyffuriau, y dull ‘amgylchedd gelyniaethus’ tuag at fewnfudo yn cynnwys diffyg cymorth o gyllid cyhoeddus, trais yn y cartref a chwalfa deuluol. Mae pob un o’r rhain wedi dioddef o ddiffyg adnoddau sylweddol.
Yr unig ateb yw cael dull gweithredol cysylltiedig ar y cyd ar draws y Llywodraeth gyda mwy o gartrefi fforddiadwy a mwy o adnoddau ataliol. Rhaid gweithredu ar frys i ateb y diffyg yn y cymorth sydd ar gael a’ r prinder tai.
8. Beth bynnag fydd canlyniad Brexit, diogelwch yr heddwch sydd yng Ngogledd Iwerddon a’r ddeddfwriaeth ar hawliau dynol sy’n diogelu pob dinesydd
Proffesiwn sydd wedi angori ar hawliau dynol yw gwaith cymdeithasol. Mae cytundebau amlochrog byd-eang, megis cytundebau hawliau dynol, yn ogystal â meini sylfaenol heddwch megis Cytundeb Gwener y Groglith, yn hanfodol i ddiogelu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, nid yn unig yn y DU ond ledled y byd. Byddai Brexit a fyddai’n bygythiad i unrhyw gytundeb o’r fath yn achosi mwy o boen i’r rhai hynny sy’n lleiaf abl i ddygymod; hefyd bydd unrhyw Brexit a fyddai’n cyhoeddi dwysâd mewn agweddau ymosodol tuag at fewnfudwyr yn creu perygl gwirioneddol i gydlyniad cymdeithasol.
Byddwch cystal â gadael i mi wybod eich bod am addo rhoi eich cefnogaeth trwy anfon e-bost ataf a thrydar gan ddefnyddio hashnodau #SWManifesto19 a #SocialWorkPledge19
Rydym yn falch i gefnogi gwaith ein partneriaid sy’n galw ar bleidiau gwleidyddol i gefnogi hawliau plant a phobl ieuanc: