Maniffesto Gwaith Cymdeithasol Etholiad y Senedd 2021
Er mwyn i weithwyr cymdeithasol cyflawni eu potensial a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant a ffyniant plant, pobl ieuanc ag oedolion, rydym yn galw ar i’r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru cydweithio gyda BASW Cymru i ddiogelu ein proffesiwn ac ymrwymo i:
Cynnal adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol yng Nghymru
Cynyddu’r nifer o weithwyr cymdeithasol sy’n dod i mewn i’r proffesiwn ac i gau’r bylchau gwag
Cynyddu’r nifer o fwrsarïau i fyfyrwyr a’i gosod yn gyfartal a’r rhai a gynigir i fyfyrwyr nyrsio
Sicrhau bod rôl hanfodol gweithwyr cymdeithasol o fewn iechyd cyhoeddus yn cael ei integreiddio i gynllunio argyfwng ar lefel Llywodraeth ac yn lleol
Diwygio a buddsoddi mewn, cyllid gofal cymdeithasol
Gwneud addysg gwrth-gorthrwm, gwrth-hiliaeth a gallu addysg ddiwylliannol yn hanfodol i holl weithwyr cymdeithasol trwy bob cam o’u gyrfaoedd
Creu swydd o Brif Weithiwr Cymdeithasol dros Gymru.