Mae arolwg gweithlu Dweud Eich Dweud 2025 Gofal Cymdeithasol Cymru ar agor!
Yr arolwg blynyddol hwn yw eich cyfle i rannu eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol gyda ni.
Bydd gennych chi gyfle i ateb cwestiynau am bethau fel eich iechyd a’ch llesiant, cyflog ac amodau, a’r hyn rydych chi’n ei hoffi am weithio yn y sector.
Mae eich ymatebion yn rhoi cipolwg gwych ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i lywio’r cymorth y mae Gofal Cymdeithasol Cymru a phartneriaid yn ei gynnig. Maen nhw hefyd yn amlygu materion pwysig i lunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru ac yn ein helpu i fonitro tueddiadau dros amser.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau. Bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw – ni fydd neb yn gwybod pwy sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Bydd yr arolwg yn cau ar 7 Mawrth.
Dyma’r trydydd tro i ni gynnal yr arolwg, ar ôl ei lansio yn 2023.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu Buckinghamshire New University, Bath Spa University a ni, Cymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol, i wneud y gwaith hwn, ar ôl gweithio gyda’r un grŵp o bartneriaid i gyflawni arolwg 2024.
Byddwn ni'n rhannu’r canlyniadau ar ein gwefan yn ddiweddarach yn 2025.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Os ydych ar Gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru, byddant yn e-bostio linc i’r arolwg atoch, neu ewch yn syth i'r arolwg nawr.
Hyd yn oed os ydych chi wedi gadael y sector, bydden ni wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau. Bydd cyfle i chi rannu eich barn fel rhan o’r broses.
Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £20.
Ar ddiwedd yr arolwg, byddwch chi hefyd yn cael cyfle i fynegi eich diddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws neu gyfweliad unigol. Bydd y rhain yn eu helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r pynciau sy'n cael eu trafod yn yr arolwg.
Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:
“Yr arolwg hwn yw eich cyfle i leisio’ch barn drwy ddweud wrthym am eich profiadau o weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Ymatebodd mwy na 5,000 o bobl i arolwg y llynedd. Diolch i bob un ohonoch a gymerodd yr amser i ymateb.
“Fe wnaeth eich ymatebion dynnu sylw at eich ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac mae eich ymroddiad i unigolion a’u teuluoedd yn glir.
“Ond fe wnaethoch chi hefyd godi rhai materion pwysig iawn rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i helpu i fynd i’r afael â nhw.
“Gallwch chi ddarganfod mwy am y camau rydyn ni’n eu cymryd gyda’n gilydd yng Nghynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol, neu yn ymateb ysgrifenedig y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ganfyddiadau’r llynedd.
“Rydyn ni'n gwybod eich bod yn brysur, bod eich amser yn werthfawr ac na fydd cwblhau arolwg yn flaenoriaeth. Ond bydd cymryd yr amser i rannu eich barn yn ein helpu ni a’n partneriaid ehangach i ymateb i anghenion y gweithlu yn fwy effeithiol.
“Peidiwch â cholli'ch cyfle i ddweud eich dweud.“
Hyrwyddwch arolwg Dweud Eich Dweud yn eich gweithle
Mae ystod o adnoddau wedi'u datblygu i'ch cefnogi chi i hyrwyddo'r arolwg yn eich gweithle. Gallwch gael mynediad at y rhain ar-lein.
Beth oedd canlyniadau arolwg 2024?
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru ganlyniadau arolwg 2024. Fe wnaeth yr ymchwil hynny darganfod bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud nag yn 2023, ond bod eu llesiant yn waeth na chyfartaledd y DU.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am arolygon 2023 a 2024, gallwch edrych yn ôl ar y canfyddiadau trwy glicio ar y dolenni canlynol.
Angen mwy o wybodaeth?
Fideo Gofal Cymdeithasol Cymru.
Efallai byddwch chi'n dod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio am yn yr adran cwestiynau cyffredin.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch SCWsurvey@bathspa.ac.uk.
